Lisa Gwilym: 20 mlynedd o uchafbwyntiau cerddorol - BBC Cymru Fyw

Lisa Gwilym: 20 mlynedd o uchafbwyntiau cerddorol

  • Cyhoeddwyd
Lisa gwilym

Fel rhan o Wobrau'r Selar 2022, anrhydeddau blynyddol i ddathlu cerddoriaeth yng Nghymru, fe wnaeth y cyflwynydd radio Lisa Gwilym dderbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig - am ei chyfraniad i'r sîn gerddorol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Ar ôl clywed ei bod wedi derbyn y wobr, dywedodd Lisa:

"Dwi wir ddim yn haeddu'n lle pan ti'n edrych ar bawb sy 'di ennill yn y gorffennol... Ond dwi wir wir yn gwerthfawrogi.

"Mae hwn jyst yn anrhydedd. Fydda i'n trysori'r wobr yma am weddill fy mywyd."

Disgrifiad,

Lisa Gwilym yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar 2023

Ar raglen Rhys Mwyn ar Radio Cymru bu Lisa'n hel atgofion ac yn trafod rhai o uchafbwyntiau'r 20 mlynedd diwethaf o ddarlledu.

Dechrau cyflwyno gyda C2

O'n i'n cyflwyno Uned 5 ar y pryd, a dwi'n cofio dod i BBC Bangor i ffilmio eitem efo Daf Du, a gweld Daf yn chwarae efo'r 'llong ofod' fel dwi'n licio galw'r ddesg... a jysd meddwl "Am job cŵl! A sut mae o'n gwneud hynny i gyd?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa yn parhau i wneud y 'job cŵl' o chwarae a thrafod cerddoriaeth ar y radio, 20 mlynedd yn ddiweddarach

A 'chydig fisoedd yn ddiweddarach mi ddoth y cyfle i fi fod yn un o gyflwynwyr C2. A dwi jysd yn cofio meddwl "Waw, dwi'n cael gwneud hyn. Dwi'n cael chwarae tiwns ar y radio a siarad amdanyn nhw."

Ac 20 mlynedd yn ddiweddarach dwi dal wrthi a dwi dal i deimlo mor mor lwcus bo' fi'n cael gwneud rhywbeth sydd jysd mor agos at fy nghalon i.

Ymfalchïo mewn bandiau newydd

Dwi 'di gwneud miloedd o gyfweliadau. Dwi'n ymhyfrydu yn y ffaith bo' fi'n cael sgwrsio efo artistiaid sydd reit ar ddechrau eu gyrfa nhw, pan ti'n meddwl am holl stwff Brwydr y Bandiau; ti'n dod i'w hadnabod nhw reit ar y cychwyn, a wedyn ti'n dilyn eu siwrna nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Lisa - y 'fam falch' - yn cyfweld Dion a Siôn o Alffa, cyn eu perfformiad yn Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol 2022

Dwi'n meddwl am Alffa er enghraifft. 'Nai byth anghofio cyfarfod nhw yn 2017 a jysd y sŵn anferth 'ma. A wedyn sbia arnyn nhw rwan, wedi cael milynau a miliynau o ffrydiadau.

Oedd [Alffa] yn Gig y Pafiliwn llynedd yn chwarae efo cerddorfa'r Welsh Pops ac o'n i fatha rhyw hen fam falch llawn emosiwn gefn llwyfan, achos ti'n dod yn rhan o'u siwrna nhw, ti'n ymfalchïo gymaint yn eu llwyddiant nhw.

Dwi 'di cael gymaint o bleser yn gweld bands yn tyfu ac yn blodeuo ac yn mynd o nerth i nerth.

Sesiwn Unnos

Y Sesiynau Unnos... roedd rheina jysd yn brofiad a hanner, cael fy nghloi mewn stiwdio dros nos efo cerddorion a bod yn bry ar y wal a gweld y magic 'ma'n digwydd o flaen dy lygaid di. Oedd o'n wych.

Dwi'n cofio Gareth Bonello yn dod yma i neud y sesiwn gynta, a wedyn Frizbee, 9Bach... eu dyddiau cynnar nhw fel bandiau.

Disgrifiad o’r llun,

Yr artistiaid Casi Wyn, Ifan Davies a Gruff Jones o Sŵnami, Guto Howells o'r Eira, Dr Owain Llwyd a Gethin Griffiths (gyda Lisa a chynhyrchwyr y BBC) ddaeth at ei gilydd i greu Sesiwn Unnos o dan yr enw Clwb Cariadon

Gwobrau'r Selar

'Na i fyth anghofio'r noson gynta' 'na yn 2013. 10 mlynedd yn ôl, sydd jysd yn anhygoel.

Mi oedd noson Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru yn nosweithiau gwallgof a gwych, ac mi ddoth rheina i ben felly roedd y ffaith fod Sgiv (Owain Schiavone) a chriw'r Selar yn awyddus iawn i gynnal noson o ddathlu'r holl gerddorion am eu gwaith nhw yn ystod y flwyddyn yn wych.

Roedd y mwynhad ar wynebau pawb a'r sylweddoliad 'na o pa mor bwreus ydy cael pawb at ei gilydd i ddathlu ac i ddiolch yn ffantastig.

Disgrifiad o’r llun,

Lisa gefn llwyfan yng Ngwobrau'r Selar 2016 gyda'i chyd-gyflwynydd Radio Cymru, Huw Stephens, a Dafydd, Aled a Branwen o'r band Cowbois Rhos Botwnnog

Dwi'n cofio'r dyddiau pan oedd 'na fysus yn cael eu trefnu... jysd y ffaith fod 'na fysus yn cael eu trefnu o ledled y wlad 'ma i fynd i Aberystwyth i fwynhau cerddoriaeth fyw!

Ac wedyn wrth gwrs o'n i'n cael bod gefn llwyfan yn doeddwn. Pawb yn joio bod yng nghwmni ei gilydd... oedd, roc a rôl... ond hefyd jysd pawb mor hapus i fod mewn digwyddiad yn dathlu cerddoriaeth o Gymru.

Mynd o dan groen y gerddoriaeth

Be' sydd o ddiddordeb i fi wrth gwrs ydy'r broses greadigol a mynd ar eu holau nhw a dod i'w hadnabod nhw fel cerddorion a pam bo' nhw'n creu a be' ma nhw'n trio neud a jysd trio dod i ddallt y gerddoriaeth.

Yn amlwg 'da ni'n licio chwarae'r gerddoriaeth, ond mae cael y cyd-destun a chael y cefndir yn newid sut ti'n gwrando ar y gerddoiaeth.

Mae Geraint Jarman a fi yn licio siarad, a dwi'n meddwl bod o 'di licio siarad achos o'n i'n mynd dan groen ei gerddoriaeth o. Ac mi gafodd o'r adfywiad 'ma yn ddiweddar ac yn amlwg oedd o 'di cael yr awch 'ma yn ôl i fynd ati i greu, ac oedd jysd cael bod yn rhan o'r broses yna efo Geraint jysd yn 'waw'. A'r ffaith bod o'n fodlon bod mor agored.

Disgrifiad o’r llun,

Geraint a Lisa yn mynd o dan groen y gerddoriaeth

Dwi'n cofio fues i'n ei dŷ fo. Gaethon ni wahoddiad i fynd i gartref Geraint i sgwrsio am yr albym ddiweddara.

Roedd o'n un o'r rheina, pan ti'n pinsho dy hun... A) Dwi'n sgwrsio efo Geraint Jarman, B) Dwi yn ei gartref o a C) Mae o jysd mor hapus i fod yn siarad! Dwi 'di cael lot o adegau fel'na.

Ugain mlynedd o bleser

Dwi 'di chwarae rhan bach bach yn y sin a 'di cael gymaint o bleser o fod y cog lleia posib yn sicrhau bod y gerddoriaeth 'ma'n cael ei chwarae ar y radio a bod pobl yn cael siarad amdana fo.

Does na'm rhaid i bawb licio bob dim 'da ni'n chwarae, jysd bo' ni'n rhannu'r profiad o wrando ar gerddoriaeth. Profiad 'di o - dyna pam 'da ni gyd yn licio cerddoriaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Lisa yn cyflwyno o Wobrau Gwerin Cymru 2019

Dim job 'di o, llafur cariad 'di o. Dwi di cael cyd-weithio a 'di cael rhoi llwyfan i gymaint o fandiau ac artistiaid yn ystod yr 20 mlynedd diwetha 'ma, 'di gweld y newid mwya' yn y sîn a 'di cael bod yn rhan o'r holl gyffro.

Fy mhleser i bob wythnos oedd cael rhoi llais a chael rhoi llwyfan i'r cerddorion 'ma a jysd eu hannog nhw ac i holi nhw'n dwll pan oedden nhw'n rhyddhau unrhywbeth.

Mae fy niolch i yn amlwg i'r holl gerddorion sy' jysd 'di gadael i mi fod yn rhan o'u bywyd nhw ac yn rhan o'u siwrna nhw. Ac yn amlwg i'r holl gynhyrchwyr sy' 'di gweithio efo fi fan hyn yn y BBC i greu rhaglen oedd yn golygu'r byd i fi.

'O'r grwpiau ifanc i'r legends... a phawb yn y canol'

Lisa Gwilym yn cyflwyno...

Disgrifiad o’r llun,

... Dafydd Iwan

Disgrifiad o’r llun,

... Gwilym

Disgrifiad o’r llun,

... Alys Williams

Disgrifiad o’r llun,

... Seckou Keita a Catrin Finch

Disgrifiad o’r llun,

... Meic Stevens

Disgrifiad o’r llun,

... Mellt

Disgrifiad o’r llun,

... Gruff Rhys

Disgrifiad o’r llun,

... Gwenno

Disgrifiad o’r llun,

... Dave Datblygu

Mae Lisa Gwilym bellach yn cyflwyno rhwng dydd Llun a dydd Iau ar Radio Cymru 2, 9-11am.