Siân Phillips yn 90 - BBC Cymru Fyw

Siân Phillips yn 90

  • Cyhoeddwyd
sianFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar 14 Mai 2023 mae un o actorion amlycaf Cymru, Siân Phillips, yn dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed. Mae hi'n actio ers yr 1950au a does dim golwg ohoni'n rhoi'r gorau unrhyw bryd yn fuan.

Yn ferch fferm o ardal Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, fe wnaeth enw i'w hun yn rhyngwladol drwy actio mewn ffilmiau fel Becket (1964), Goodbye, Mr. Chips (1969), Murphy's Law (1971) a House of America (1997), yn ogystal â sawl cyfres deledu llwyddiannus fel I, Claudius.

Mae'r darlledwr Hywel Gwynfryn yn ysgrifennu llyfr am Siân Phillips ar hyn o bryd, ac yma mae'n rhannu rhywfaint o'i argraffiadau o'r actores.

'Age shall not wither her, nor custom stale her infinite variety'... Geiriau Shakespeare yn cloriannu harddwch a chymeriad Cleopatrea, mewn un frawddeg, a honno'n addas iawn i ddisgrifio yr actores Siân Phillips, anwyd ar 14 Mai,1933.

'Nacdi byth' medda chi, 'tydi hi ddim yn 90 oed ddydd Sul!'... Os wnewch chi anfon cerdyn pen-blwydd iddi hi' f'asa hi ddim yn diolch i chi am wneud hynny!

Fuodd hi erioed yn un am gyfri'r blynyddoedd. Mae hi'n perthyn i'r un ysgol o feddwl â Clint Eastwood, anwyd yn yr un mis â hi. Mae o'n 93 ar ddiwedd y mis, ac fel Siân, yn dal i weithio.

'Age,' medda fo, 'They're just numbers after my name. They don't tell you anything about me'. Yn achos Siân mae hithau hefyd wedi darganfod y gyfrinach o fynd yn iau wrth fynd yn hŷn, ac yn hŷn heb fynd yn hen - peidio ymddeol!

Y bwriad i fod yn actor

Pan oedd hi'n chwech oed fe aeth am dro efo'i Mamgu i Abertawe i weld ei phantomeim cyntaf ac fe gafodd ei chyfareddu. Ar ôl dychwelyd adre' fe ysgrifennodd mewn hen ddyddiadur, oedd yn y tŷ 'I am resolved to be an actress', ac fe gychwynnodd y daith tuag at wireddu'r nôd hwnnw pan enillodd y wobr gynta' am lefaru yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybie ym 1944.

Fe glywodd Nan Davies, a oedd yn gynhyrchydd gyda'r BBC ar y pryd, y ferch o Wauncaegurwen yn cystadlu ac fe recordiwyd ei llais ar gyfer y radio, ac erbyn 1953 roedd Siân yn aelod o'r BBC Repertory Company, yn actio gyda Rachel Tomos, Richard Burton, Dilys Davies, Prysor Williams a Clifford Evans. Yn ogystal â hyn roedd Siân hefyd yn gweithio i'r adran gyhoeddi, ac yn aelod o Gwmni Drama Cyngor y Celfyddydau yn teithio Cymru gyda dramâu Saunders Lewis, Gymerwch chi Sigarét? a Siwan.

Roeddwn i ar y pryd yn ddisgybl yn yr Ysgol Uwchradd, a 'dwi'n cofio mynd i Neuadd y Dref yn Llangefni a'i gweld hi'n actio Iris yn y ddrama Gymerwch chi Sigarét? Ychydig 'nes i feddwl bryd hynny y baswn i, rhyw ddiwrnod yn cael y fraint o ysgrifennu cofiant iddi. (Yr ateb i'ch cwestiwn nesa' chi ydi 'erbyn y 'Dolig, gobeithio!').

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sian Phillips yn chwarae rhan Lady Bracknell yn The Importance Of Being Earnest

Fe fu tri o bobol yn ddylanwad mawr ar Siân yn y dyddiau cynnar. Eic Davies, ei hathro yn ysgol Ramadeg Pontardawe, Hugh Griffith, yr actor o Fôn, a Saunders Lewis.

'Shane'/'Shawn'/'Stan'

Eic Davies wnaeth ei hail fedyddio yn Siân Phillips. Jane Ailwên Phillips oedd yr enw ar y tystysgrif geni. Pan sylweddolodd Eic fod y ferch ifanc yma'n actores o'i chorun i'w sawdl, fe'i hailfedyddiodd yn Siân. Fe achosodd hynny broblemau ar y cychwyn, yn enwedig yn Llundain ble 'r ymddangosodd ei henw fel Shane, Shyanne, Shawn a hyd yn oed Stan.

Ond beth am ei henw canol 'Ailwên'? Sally, ei mam ddewisodd hwnnw, oherwydd ar ôl marwolaeth ei phlentyn cyntaf, pan anwyd Siân, fe ddaeth hi a 'gwên' yn ôl i'r aelwyd.

'Roedd Eic Davies yn ffrindiau gyda'r actor Hugh Griffith a phan ddaeth Hugh i Abertawe i actio rhan y Brenin Llŷr fe ofynnodd Eic iddo bicio draw i'r ysgol i weld Siân, a gwrando arni yn llefaru. Ac fe wnaeth.

Ar ôl gwrando arni 'doedd ganddo ddim amheuaeth y dylai fynd i goleg Drama RADA yn Llundain er mwyn cael ei hyfforddi i fod yn actores llawn amser. Roedd Saunders Lewis o'r un farn. Ond fe'i rhybuddiodd hefyd y byddai, o ddewis y llwybr hwnnw, 'yn cerdded ar hyd dibyn ansicrwydd'.

Mae hi'n dal i gerdded y llwybr hwnnw, ac wedi llwyddo i gyrraedd y nôd osododd iddi hi ei hun pan oedd hi'n chwech oed, ers blynyddoedd, a hynny'n hynod o lwyddiannus.

Penblwydd hapus iawn Siân!

Hefyd o ddiddordeb: