Datganiad cyfryngau: CBCDC… | Royal Welsh College of Music & Drama
Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Datganiad cyfryngau: CBCDC Ifanc

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 10/05/2024

CBCDC Ifanc

Ar hyn o bryd mae Coleg Brenhinol Cymru yn cynnal ymgynghoriad ynghylch cynigion i atal rhywfaint o'n gweithgarwch presennol gyda CBCDC Ifanc. Ynghyd â holl Sector Addysg Uwch y Deyrnas Unedig, mae’r Coleg yn wynebu heriau ariannol sylweddol.  

Mae gweithgarwch Actorion Ifanc a Cherddorion Ifanc yn bwysig i niac mae’r Uwch Dîm Rheoli a’r Bwrdd yn gwerthfawrogi’n fawr ymroddiad ac ymrwymiad y staff sy’n cyflawni’r gwaith hwn.

Rydym yn cydnabod y pryderon y bydd y cynigion hyn yn eu hachosi i'r staff, y myfyrwyr a'r rhieni dan sylw. Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i wneud rhai penderfyniadau anodd i sicrhau bod y Coleg yn barod i gwrdd â heriau'r blynyddoedd sydd i ddod.  

Mae angen cymhorthdal sylweddol gan y Coleg ar ein gwaith gydag Actorion Ifanc a Cherddorion Ifanc gan nad ydym yn derbyn unrhyw gyllid uniongyrchol ar gyfer addysg cyn Coleg gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, (Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil erbyn hyn) na Llywodraeth Cymru. Nid yw parhau i roi cymhorthdal ​​i CBCDC Ifanc fel yma yn gynaliadwy o ystyried y pwysau ariannol difrifol sydd arnom.  Yn ogystal, fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, ac yn unol â'n strategaeth ehangach, rydym yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb i gynnig profiadau bywiog i mewn i hyfforddiant proffesiynol sy'n cyrraedd pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, nid yn unig o ardal Caerdydd ond ledled Cymru, gan gofleidio'r Gymraeg. Mae'r model presennol o weithgarwch wythnosol, yn ystod y tymor, yn cyfyngu ar ein gallu i wneud hyn.

Gallai’r cynigion hyn effeithio ar bum aelod o’n staff cyflogedig craidd yn ogystal â 112 o staff sy’n gweithio oriau amrywiol sy’n rhoi o’u hamser i addysgu ein myfyrwyr dros y penwythnos yn ystod y tymor. O'r rhain, mae 52 hefyd yn addysgu ar ein cyrsiau gradd nad yw'r cynigion hyn yn effeithio arnynt. Ar hyn o bryd mae gennym ni 182 o fyfyrwyr Cerddorion Ifanc (Conservatoire Iau) a 158 o fyfyrwyr Actorion Ifanc (Cwmni Ieuenctid Richard Burton, Actorion Ifanc) yn astudio gyda ni.

Rydym yn benderfynol nid yn unig o gynnal Conservatoire Cenedlaethol Cymru, ond hefyd o sicrhau ei fod yn ffynnu ac yn diwallu anghenion newidiol myfyrwyr yn y dyfodol. Fel llawer o ddarparwyr addysg uwch a sefydliadau’r celfyddydau, mae hyn yn golygu ailystyried agweddau ar sut rydym yn darparu ein hyfforddiant tra'n parhau i sicrhau’r effaith a'r cyfraniad mwyaf posibl i'r celfyddydau perfformio, i gerddorion a gwneuthurwyr theatr, ac i Gymru.  

Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd ym maes cerddoriaeth a theatr i bobl ifanc ac i greu llwybrau i hyfforddiant proffesiynol. Yn y lle cyntaf, byddwn yn parhau i ddarparu gwaith prosiect, gan gynnwys cyfres o weithdai trochi mewn cerddoriaeth ar benwythnosau, preswyliad y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol yn CBCDC a'n cyrsiau dros y gwyliau yn y celfyddydau cynhyrchu. Yn ogystal â’r rhain, byddwn yn ystyried y ffordd orau i ddatblygu model newydd a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan gydweithio â sefydliadau celfyddydol eraill, ac adeiladu ar y gwaith partneriaeth parhaus, er enghraifft, drwy’r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.    

Negeseuon newyddion eraill