Concerto i’r Gerddorfa gan Bartók

Nos Iau 9/5/24, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 10/5/24, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Caroline Shaw
The Observatory première y DU   16’

Maurice Ravel
Concerto i’r Piano yn G fwyaf   25’

EGWYL: 20 munud

Béla Bartók
Concerto i’r Gerddorfa  36’

Giancarlo Guerrero arweinydd
Sergio Tiempo piano

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar y rhaglen Radio 3 in Concert ac yn cael ei ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol yng Nghyfres Cyngherddau Digidol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae'r cyngerdd yn Abertawe yn cael ei recordio i'w ddarlledu ar y rhaglen Afternoon Concert ar BBC Radio 3 yn y dyfodol. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu ar BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Llun: Kirsten McTernan

Llun: Kirsten McTernan

Croeso i’r cyngerdd heno, lle mae’n bleser gennym groesawu’r arweinydd sydd wedi ennill gwobrau Grammy, Giancarlo Guerrero.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn cerddoriaeth gyfoes, felly mae’n briodol bod y rhaglen yn dechrau gyda’r perfformiad cyntaf yn y DU o The Observatory gan Caroline Shaw. Fe’i hysgrifennwyd ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles a chanfu Caroline ei hun yn tynnu ar ddylanwadau mor amrywiol â chosmoleg, nenlinell Los Angeles a thraciau sain sci-fi i greu gwaith sy’n llawn lliw ac egni.

Mae’r ansoddeiriau hyn yr un mor berthnasol i waith cerddorfaol olaf Bartók, ei Goncerto i Gerddorfa, sy’n chwarae â nodweddion y genre. Fe’i hysgrifennodd yn yr Unol Daleithiau, ar ôl cael ei orfodi gan gynnydd Natsïaeth i adael ei annwyl Hwngari. Mae’n waith sy’n mynd o ddifrifoldeb yn ei symudiad agoriadol i optimistiaeth anorchfygol yn yr un olaf, ac ynddo mae pob grŵp offerynnol yn cael cyfle i ddisgleirio.

Rhwng y naill a’r llall, mae Concerto Ravel i’r Piano yn G fwyaf, ac mae’n bleser gennym groesawu Sergio Tiempo. Yn yr un modd â’r gweithiau eraill heno, mae gan y darn hwn gysylltiad ag America. Cafodd ei ysgrifennu ar ôl taith gan Ravel yn yr Unol Daleithiau lle, yn ogystal â pherfformio fel pianydd, cafodd amser i wrando ar jazz gyda George Gershwin a’r arweinydd band Paul Whiteman. Yn ôl adref yn Ffrainc, aeth yn ei flaen i gynnwys elfennau jazz yn y concerto disglair hwn, sy’n cyferbynnu meistrolaeth eithafol yn y symudiadau allanol â symudiad araf sydd mor deimladwy a phersain ag unrhyw beth a gyfansoddodd.

Mwynhewch!

Matthew Wood
Pennaeth Cynhyrchu Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rheiny sy’n gwrando gartref. Diffoddwch eich ffonau symudol a’ch dyfeisiau electronig yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Caroline Shaw (ganed 1982)

The Observatory (2019)

première byd

Gall creu sgôr ar gyfer cerddorfa lawn deimlo fel sefyll ar ben mynydd, sgwrio llawr y gegin, nofio yng nghanol llyn, bod ar y rheilffordd danddaear yn ystod oriau brig a gafael yn dyner yn llaw rhywun, i gyd yr un pryd. Nid yw’n gyfrwng rwy’n gweithio ynddo’n aml iawn. Rwyf bob amser yn ceisio ysgrifennu ar gyfer yr amgylchedd penodol (lle, ensemble neu berson, adeg o’r flwyddyn, ac ati) lle bydd y gerddoriaeth yn cael ei chlywed am y tro cyntaf (yn yr achos hwn: Hollywood Bowl, Ffilharmonig LA, y seren wych Xian Zhang, gwres mis Awst 2019). Mae’n gyfyngiad hwyliog, ac mae’n helpu i gadw’r ysgrifennu’n bersonol ac yn gysylltiedig â’r byd go iawn. Y tro cyntaf a’r unig dro yr oeddwn erioed wedi bod yn Hollywood Bowl oedd ym mis Medi 2015, yn canu gyda Kanye yn y sioe 808s & Heartbreak. Roedd yn siwrnai wyllt, a chofiaf deimlo fel pe bawn yn syllu ar weithdy llawn dirgelion a oedd rywsut yn troi anhrefn yn harddwch. Mae rhywbeth hefyd am ysgrifennu gwaith cerddorfaol ar gyfer noson o haf yn Hollywood a wnaeth i mi feddwl am fy hoff genre o ffilmiau ac adrodd straeon: sci-fi. Rydw i wrth fy modd â’r ffordd y gall straeon epig o’r byd y tu hwnt i’r ddaear hoelio’r sylw’n agos a phellhau, gan ddefnyddio bydysawdau dychmygol gwahanol i adrodd straeon amdanom ni ein hunain. Ac rydw i wrth fy modd â’r ffordd mae’r gerddoriaeth yn y ffilmiau hyn yn naddu ac yn lliwio ein sylw ar y bydoedd hynny.

Wrth ysgrifennu cerddoriaeth, rwy’n aml yn dychmygu rhyw fath o elfen weledol (fel arfer yn haniaethol, weithiau’n ffigurol, yn anaml yn naratif) fel canllaw i mi fy hun ac weithiau fel rhywbeth i ysgrifennu yn ei erbyn. Mae gwrthbwynt anweledig yma, ond byddai’n well gen i i rywun wrando a chreu eu hantur naratif gwrthbwyntiol eu hunain na darllen fy naratif i – gan adael lle i arsylwi a myfyrio eich hun, boed hynny ynghylch y gerddoriaeth neu grys-T eich cymydog neu gosmoleg neu restr siopa yfory. (Mae straeon mawr ein bywydau weithiau’n dod yn fyw drwy’r manylion bychain a phethau bob dydd.) Ac yn aml, nid yw’r elfennau gweledol dychmygol rydw i’n ysgrifennu iddynt yn ddim mwy na newid lliw neu doriad cyflym rhwng golygfeydd heb eu diffinio. (Weithiau, yn y cyfosodiadau a’r trawsnewidiadau [a rhwng y cromfachau] y mae’r straeon.)

Roeddwn yng nghanol ysgrifennu The Observatory pan oeddwn i yn LA yn gynharach yn 2019 i wneud recordiadau llais (helo, Teddy Shapiro!). Felly un bore cyn ein sesiwn, es i fyny i Arsyllfa Griffith i glirio fy mhen. Edrychais i lawr ar y ddinas gyda’i holl gromlinau a’i hymylon (diolch, John Legend) ac i fyny at yr awyr, rhywbeth sydd wedi cael ei gweld ac a fu’n destun rhyfeddod ers dechrau ymwybyddiaeth. Roeddwn i wedi bod yn meddwl am fy ffrind Kendrick Smith, cosmolegydd yn Sefydliad Perimeter (a hefyd fy hoff gril-feistr). Mae Kendrick ar flaen y gad yn y traddodiad hynafol o syllu ar y sêr, gan lunio fframweithiau newydd ar gyfer dadansoddi data a gasglwyd gan delesgop radio CHIME. Fy nadansoddiad gor-syml i o’i waith: Mae Kendrick yn datblygu ffyrdd o edrych ar ffyrdd o edrych ar y bydysawd. Weithiau dwi’n meddwl efallai mai dyna beth ydy cerddoriaeth. Neu efallai mai dim ond ffordd o gydnabod a phasio’r amser ydyw.

Os ydych chi wedi cyrraedd mor bell â hyn yn nodyn y rhaglen, mae’n debyg eich bod chi’n meddwl tybed a ydw i am siarad am y gerddoriaeth y byddwch chi’n ei chlywed yn The Observatory. Iawn. Mae rhai cordiau mawr iawn, a rhai bylchau mawr iawn. Mae patrymau a manylion am symudiadau patrymau (diolch, T. S.). Mae motiffau sy’n ymddangos mewn cywasgiad ac estyniad yr un pryd, fel gwrthrychau sy’n cylchdroi ar wahanol gyfnodau. Mae yna flaendir a chefndir. Mae yna gariad at Andrew Norman. Ceir cyfeiriadau at Don Juan gan Richard Strauss, Concerto Brandenburg Rhif 3 Bach, Symffoni Rhif 2 Sibelius, Symffoni Rhif 1 Brahms a hyd yn oed y clychseiniau taenedig a ddefnyddir i ddenu cynulleidfaoedd i’w seddi mewn cyngherddau cerddorfaol. Mae systemau’n cael eu dathlu a’u beirniadu. Mae anhrefn ac eglurder. Mae’r cordiau mawr iawn yn dychwelyd ar y diwedd, ond nid yw eu hymddygiad yr un fath ag ar y dechrau. Croeso i The Observatory.

Nodyn y rhaglen © Caroline Shaw

Maurice Ravel (1875–1937)

Concerto i’r Piano yn G fwyaf (1929–31)

1 Allegramente
2  Adagio assai
3  Presto

Sergio Tiempo piano 

Yn 1928, aeth Ravel ar daith am bedwar mis i gynnal cyngherddau o amgylch gogledd America. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe chwaraeodd ei waith Sonatine a detholiadau o Miroirs, ac fel arfer byddai’n cael sylw mawr mewn perfformiadau o’i gerddoriaeth gan gerddorion eraill.  Yn Hollywood, cafodd dynnu ei lun gyda Douglas Fairbanks a Mary Pickford a threuliodd sawl noson yn Harlem yn gwrando ar jazz gyda George Gershwin a’r arweinydd band Paul Whiteman. Nid oedd jazz yn rhywbeth newydd i Ravel, ond ar ôl ei daith yn America, fe ddaeth yn bwysicach iddo. Arweiniodd ei frwdfrydedd at greu dau waith gwahanol iawn i’w gilydd, y ddau’n goncerti i’r piano.

Dechreuodd weithio ar y Concerto i’r Piano yn G fwyaf yn 1929 ond daeth hyn i stop dros dro pan gafodd gomisiwn i gyfansoddi ail goncerto, ar gyfer llaw chwith yn unig, gan y pianydd o Awstria, Paul Wittgenstein (brawd yr athronydd, Ludwig), a oedd wedi colli ei fraich dde yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth Ravel ati’n fwriadol i greu’r darn hwnnw’n un trymach, mwy mawreddog i wneud iawn am y cyfyngiadau technegol ynddo. Roedd hynny’n gwrthgyferbynnu â’r Concerto yn G Fwyaf a oedd, yn ôl y cyfansoddwr, wedi'i ysgrifennu yn ysbryd Mozart a Saint-Saëns. Ac eto, er gwaethaf y ffaith bod y darn piano yn dryloyw ac mai cerddorfa gymharol fach sydd ei hangen, mae’r Concerto yn G Fwyaf mewn gwirionedd yn ddarn sy’n gofyn llawer gan y cerddorion. Mae’r symudiadau allanol yn galw am ystwythder anhygoel, nid yn unig gan y pianydd ond hefyd gan y rheini sy’n chwarae’r offerynnau chwyth a phres.

Ac yntau ymhell o fod yn bianydd perffaith, achosodd Ravel gryn bryder i’w gyfeillion a’i gydweithwyr drwy gyhoeddi ei fod yn bwriadu chwarae’r darn unawd ei hun a’i fod yn awyddus i fynd â’r concerto ar daith i bedwar ban byd. Gorfu iddo newid ei gynlluniau oherwydd dirywiad yn ei iechyd, ac felly fe arweiniodd y perfformiad cyntaf, ym Mharis ym mis Ionawr 1932 gyda Marguerite Long fel yr unawdydd. Ar ôl hynny, cafodd y gwaith ei chwarae ganddyn nhw mewn 20 o ddinasoedd yn Ewrop, gan gynnwys Llundain.

Mae clecian chwip yn gychwyn gwych i’r symudiad cyntaf – gyda’r picolo yn chwarae alaw sionc yn erbyn cyfeiliant graenus y piano, y llaw dde ar y nodau gwyn, y llaw chwith ar y nodau du. Mae’n llwyddo’n arbennig i ddal awyrgylch y syrcas pan fydd glissandi’r piano yn arwain yr utgorn i mewn gan gymryd yr awenau gyda’r alaw. Yn ddisymwth, mae’r naws ysgafn yn diflannu a’r amseru’n llacio mewn arddull jazz nwydus, gyda nodau llesmeiriol a’r blŵs. Ond fel y mae Ravel yn dechrau troi’n dyner, daw ei ffraethineb ac elfen drawsacennog frau yr agoriad yn eu hôl. Mae’r symudiad cyfan yn ddeialog o’r gwrthgyferbyniadau hyn, yn gyflym ac yn araf am yn ail, ac yn llawn melodïau. Mae’r cadenza unawdol yn fyr ac wedi'i ysgrifennu'n llawn, gyda thriliau cyson yn y llaw dde yn dynwared ‘flexatone’, neu lif gerddorol, ac mae’n arwain at y foment fwyaf mawreddog pan fydd y piano yn cyflwyno un o’r themâu araf mewn gweadau soniarus – yr agosaf y daw Ravel at arddull concerto Rhamantaidd.

Nid oes dim o hynny i’w weld yn y symudiad araf, dim ond ail-gread dwys o'r arddull Glasurol – er ni fyddai’r un cyfansoddwr yn y 18fed ganrif wedi cyfansoddi alaw sy’n ymddangos fel pe bai’n ddiddiwedd fel unawd agoriadol i’r piano. (Dywedodd Ravel mai Pumawd Clarinét Mozart oedd ei fodel.) Mae ei burdeb yn cael ei ddifwyno’n raddol nes i’r cor anglais adfer yr alaw.

Daw naws diddanu yn ôl yn y diweddglo, gyda phedwar cord grymus a hy, a ffanfferau ffwrdd-â-hi, sgrechiadau a checian yr offerynnau chwyth a phres, wedi'u hysbrydoli'n rhannol gan fandiau jazz, tra bod y piano’n carlamu ymlaen, yn cael ei herio ar un pwynt gan ddau fasŵn byrlymus.

Nodyn y rhaglen © Adrian Jack

EGWYL: 20 munud

Béla Bartók (1881–1945)

Concerto i’r Gerddorfa (1943, diw. 1945)

1 Introduzione (Cyflwyniad)
2 Giuoco delle coppie (Gêm o Barau)
3 Elegia (Galargan)
4 Intermezzo interroto (Intermezzo swta)
5 Finale

Mae’r Concerto i’r Gerddorfa yn sioe liwgar, ac mae’n debyg mai dyma’r mwyaf poblogaidd o weithiau cerddorfaol Bartók. Cyfansoddwyd y concerto yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd Bartók a’i wraig, y pianydd Ditta Pásztory, wedi symud yn 1940 i ddianc o ffasgiaeth a rhyfel yn eu gwlad enedigol yn Hwngari. Ar yr adeg hon, roedd gyrfa, iechyd a modd ariannol Bartók yn dirywio. Aeth ei ben-blwydd yn 60 oed yn 1941 heibio heb iddo gael ei anrhydeddu yn ei wlad fabwysiedig.

Tra’r oedd yn yr ysbyty dan amheuaeth fod twbercwlosis arno ym mis Mai 1943, ymwelodd yr arweinydd a’r noddwr Serge Koussevitzky â Bartók, a chynigiodd $1,000 iddo am ddarn cerddorfaol newydd. Ysgrifennodd Bartók y rhan fwyaf o’r gwaith dros ddau fis tra oedd yn aros mewn ‘bwthyn iacháu’ ger Llyn Saranac ym mhen uchaf talaith Efrog Newydd, lle’r oedd wedi’i gysgodi rhag dwndwr dinas Efrog Newydd.

Mae’n bosibl bod Bartók wedi ceisio osgoi ysgrifennu ‘symffoni’ yn fwriadol, gan ei hystyried yn ffurf hen ffasiwn ac, er bod y model concerto wedi bodoli ers dros ddwy ganrif, roedd y syniad o goncerto i gerddorfa yn eithaf newydd. Ei nod oedd ‘trin yr offerynnau unigol neu’r grwpiau offerynnol mewn modd concertant neu unawdol’. Dyma sy’n creu’r amrywiaeth gyfoethog o weadau cerddorfaol. Dywedodd Bartók: ‘Mae naws gyffredinol y gwaith, ar wahân i’r ail symudiad cellweirus, yn cynrychioli newid graddol o lymder y symudiad cyntaf a galarnad bruddglwyfus y trydydd, i ddathliad o fywyd y symudiad olaf.’

Ar ôl y ‘Cyflwyniad’ daw’r ‘Gêm o Barau’ lle, yn null Arch Noa, mae offerynnau’n dod i mewn fesul dau, gan chwarae ar gyfyngau cyson ar wahân: basau mewn chwechedau, oboau mewn trydyddau, clarinetau mewn seithfedau, ac yn y blaen. Mae’r ‘alarnad’ ganolog yn cynnwys elfennau o arddull ‘cerddoriaeth nos’ Bartók: nosol, hudolus, weithiau’n ysgytwol. (Mae’n anodd credu na wnaeth Bernard Herrmann fenthyca elfennau o hyn ar gyfer ei sgorau ffilm Hitchcock.) Mae’r alaw annodweddiadol o hiraethus a thelynegol ar y fiolâu yn y pedwerydd symudiad yn dyfynnu cân genedlaetholgar boblogaidd, ‘Rwyt ti’n hyfryd, rwyt ti’n hardd, Hwngari’. Mae galwad ar y cyrn yn agor y diweddglo, cyfres fywiog o ddawnsiau sy’n arddangos dawn a meistrolaeth y gerddorfa fel unigolion ac fel grŵp.

Nodyn y rhaglen © Edward Bhesania

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant ... 

Ychydig o Ganu Nosweithiol

Nos Iau 16/5/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Fauré Pelléas et Mélisande – cyfres
Stephen McNeff The Celestial Stranger première byd
Schoenberg Verklärte Nacht (fersiwn 1943)

Joana Carneiro arweinydd
Gavan Ring tenor

CHWYLDROADOL | ANGERDDOL | GOLEUOL

Mae goleuadau nefolaidd, pefriol yn disgleirio yn y noson hon o gerddoriaeth arloesol. Mae cyfres Fauré o Pelléas et Mélisande yn agor mewn arddull sionc ond cythryblus – lleoliad cerddorol cyntaf drama Maurice Maeterlinck o’r un enw, a fyddai’n ysbrydoli cyfansoddwyr enwog eraill fel Debussy, Sibelius a Schoenberg.

Rydyn ni’n symud i uchelfannau mwy etheraidd gyda’r perfformiad cyntaf erioed o The Celestial Stranger gan Stephen McNeff. Yna, 150 mlynedd ers i Schoenberg gael ei eni, byddwn yn dathlu’r cyfansoddwr radical hwn gyda pherfformiad o Verklärte Nacht, gwaith cynnar a enillodd glod am y tro cyntaf i ddyn a fyddai’n newid cwrs hanes cerddoriaeth drwy greu cerddoriaeth ddodecaffonig, sy’n fwy adnabyddus fel cyfresiaeth. I arwain BBC NOW am y tro cyntaf, byddwn yn croesawu'r arweinydd hyfryd o Bortiwgal, Joana Carneiro.

Cyngerdd Cloi’r Tymor

Nos Iau 6/6/24, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 7/6/24, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dvořák Concerto i’r Soddgrwth
Jennifer Higdon Blue Cathedral
Dawson Negro Folk Symphony

Ryan Bancroft arweinydd
Alisa Weilerstein soddgrwth

YSBRYDOLEDIG | EICONIG | AMRYWIOL

Mae Alisa Weilerstein, y chwaraewr soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o'r concerti i'r soddgrwth mwyaf poblogaidd. Wrth i Dvořák edrych yn ôl ar ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria ei arbenigedd alawol, ei egni bywiog a’i gariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan ‘fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn’ yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol yn Blue Cathedral gan Jennifer Higdon.

Dychmygwch hyn: mis Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd gan y gynulleidfa a’r cyfansoddwr diymhongar yn ymgrymu. William Dawson oedd y cyfansoddwr hwnnw, dyn Americanaidd-Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd y Negro Folk Symphony. Aeth Dawson ati i gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd ‘yn amlwg ddim yn waith gan ddyn gwyn’ a chafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth werin negroaidd yr oedd wedi’i dysgu pan oedd yn blentyn bach. Pwy well i arwain y symffoni hon, sydd wedi’i chreu’n fedrus ac sy’n llawn emosiwn, na’n Prif Arweinydd Ryan Bancroft?

Bywgraffiadau

Giancarlo Guerrero arweinydd

Llun: Lukasz Rajchert

Llun: Lukasz Rajchert

Mae’r arweinydd Giancarlo Guerrero wedi ennill chwe gwobr Grammy ac ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Nashville.

Drwy gomisiynau, recordiadau a phremières byd, mae wedi hyrwyddo cerddoriaeth cyfansoddwyr blaenllaw o America. Mae wedi arwain Symffoni Nashville mewn 11 première byd a 15 recordiad o gerddoriaeth Americanaidd, gan gynnwys gweithiau gan Michael Daugherty, Terry Riley, Jonathan Leshnoff a John Adams.

Ar y cyd â’r cyfansoddwr Aaron Jay Kernis, sefydlodd Labordy a Gweithdy Cyfansoddwyr Symffoni Nashville a gynhelir bob dwy flynedd ar gyfer cyfansoddwyr ifanc a newydd.

Y tymor hwn, bydd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Bilbao, Chicago a Seland Newydd, Cerddorfa Ffilharmonig Brwsel, Cerddorfa Gulbenkian a Cherddorfa Ddinesig Chicago.

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd ffilharmonig Llundain, Los Angeles, yr Iseldiroedd ac Efrog Newydd; cerddorfeydd symffoni Boston, Baltimore, Cincinnati, Dallas, Detroit, Radio Frankfurt, Galicia, Houston, Indianapolis, Milwaukee, Montreal, Queensland, San Francisco, Seattle, Sydney, Toronto a Vancouver; a’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol, Washington DC, Cleveland, Philadelphia, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Orchestre Philharmonique de Radio France, NDR Radiophilharmonie a Deutsche Radio Philharmonie, ymysg eraill.

Yn ddiweddar cwblhaodd gyfnod chwe thymor fel Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Ffilharmonig NFM Wrocław, lle gwnaeth dri albwm, gan gynnwys repertoire gan Brahms, Poulenc a Jongen. 

Cyn hynny, bu’n Brif Arweinydd Gwadd Preswyl Cerddorfa Cleveland Miami a Cherddorfa Gulbenkian, yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Eugene ac yn Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Minnesota.

Ganed Giancarlo Guerrero yn Nicaragua ac ymfudodd fel plentyn i Costa Rica, lle ymunodd â’r gerddorfa ieuenctid leol. Astudiodd offerynnau taro ac arwain ym Mhrifysgol Baylor yn Texas a gwnaeth ei radd meistr mewn arwain ym Mhrifysgol Northwestern. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda cherddorfeydd ieuenctid ac mae wedi gweithio gyda Sefydliad Curtis, Ysgol Colburn yn Los Angeles, Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol (NYO2) a Philharmonia Yale, yn ogystal â rhaglen Accelerando Cerddorfa Symffoni Nashville, sy’n darparu addysg gerddorol ddwys i fyfyrwyr ifanc addawol o gefndiroedd ethnig amrywiol.


Sergio Tiempo piano

Llun: Sussie Ahlburg

Llun: Sussie Ahlburg

Mae Sergio Tiempo yn cael ei edmygu am ddehongliadau sy’n cyfuno mewnwelediad a meistrolaeth, gan berfformio repertoire sy’n amrywio o Beethoven i Ginastera.

Dechreuodd ei yrfa dros 35 mlynedd yn ôl, pan ymddangosodd am y tro cyntaf yn broffesiynol yn y Concertgebouw yn Amsterdam pan oedd yn 14 oed. Ers hynny, mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, cerddorfeydd Ffilharmonig Berlin, Los Angeles ac Efrog Newydd, cerddorfeydd Symffoni Boston, Montreal a Sáo Paulo a Cherddorfa Philadelphia.

Cafodd ei eni yn Caracas, Feneswela, a dechreuodd astudio’r piano gyda’i fam, Lyl Tiempo. Rhoddodd deyrnged iddi hi a rhai o’i ddylanwadau cerddorol agosaf eraill, yn ei albwm diweddaraf Hommage (a ryddhawyd y llynedd). Ymhlith y rhain mae ei chwaer a’i bartner datganiadau rheolaidd Karin Lechner, Martha Argerich, Nelson Freire, Mischa Maisky a’i athro Alan Weiss.

Ar ben hynny, bu’n gweithio gyda Dmitri Bashkirov, Fou Ts’ong, Murray Perahia a Dietrich Fischer-Dieskau. Mae wedi perfformio gydag arweinwyr fel Claudio Abbado, Marin Alsop, Myung-Whun Chung, Syr Mark Elder, Christoph Eschenbach, Thierry Fischer, Emmanuel Krivine, Ken-David Masur, Ludovic Morlot, Yannick Nézet-Séguin, Alondra de la Parra, Rafael Payare, Alexander Prior, Leonard Slatkin, Michael Tilson Thomas, Xian Zhang, ac, yn fwyaf nodedig, ei gydwladwr Gustavo Dudamel. Mae ei uchafbwyntiau gyda Dudamel wedi cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o Universos Infinitos, concerto Esteban Benzecry i’r piano, a Choncerto i’r Piano Rhif 1 Ginastera, sef ei dro cyntaf yn perfformio gyda Cherddorfa Ffilharmonig Berlin.

Fel datgeiniad, mae Sergio Tiempo wedi ymddangos yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yn Llundain ac yn Neuadd Wigmore, Konzerthaus Fienna a Berlin Philharmonie. Mae wedi perfformio mewn gwyliau blaenllaw, gan gynnwys Caeredin, Gŵyl Klavier Ruhr, George Enescu, Siambr Oslo, Warsaw Chopin a Lugano; mae hefyd wedi cynnal teithiau perfformio ar draws Tsieina, Korea, yr Eidal a Gogledd a De America.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers 90 mlynedd a mwy, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa symffoni genedlaethol. Yn rhan o BBC Cymru Wales, ac yn cael cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r gerddorfa’n perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw ledled Cymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae’r gerddorfa’n llysgennad dros gerddoriaeth Cymru, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr a cherddorion cyfoes. Mae modd gwrando ar gyngherddau’r Gerddorfa’n rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio Cymru, Radio Wales a Radio 3.

Mae BBC NOW yn gweithio’n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerddoriaeth ledled Cymru ac yn cynnal gweithdai’n rheolaidd, ochr yn ochr â pherfformiadau a chynlluniau i gyfansoddwyr ifanc i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau.

Mae ein stiwdio bwrpasol wedi’i lleoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n darparu’r lle perffaith ar gyfer cyngherddau ac yn ganolfan ddarlledu ar gyfer y gerddorfa. Gallwch chi ddisgwyl mwy o gyngherddau BBC NOW sy’n cael eu ffrydio’n fyw, a chynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw, fel rhan o’i ‘Chyfres o Gyngherddau Digidol’ poblogaidd.

I gael yr holl wybodaeth, ewch i wefan Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: bbc.co.uk/now 

Noddwr
Ei Fawrhydi Y Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Cyfansoddwr Cydweithredol
Sarah Lianne Lewis

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Nick Whiting blaenwr cyswllt
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Juan Gonzalez
Žanete Uškāne
Ruth Heney
Carmel Barber
Anna Cleworth
Emilie Godden
Amy Fletcher **
Paul Mann **
Marike Kruup **

Ail Ffidlau
Martyn Jackson ‡
Sheila Smith
Beverley Wescott
Ilze Abola
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Joseph Williams
Lydia Caines
Michael Topping
Elizabeth Whittam **
Gary George-Veale **
Laurence Kempton **

Fiolâu
Joel Hunter ‡
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Lydia Abell
Anna Growns
Lowri Taffinder
Catherine Palmer
Charlotte Limb **

Soddgrythau
Alice Neary *
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt **
Keith Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Kathryn Graham **

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Georgia Lloyd
Christopher Wescott
Richard Gibbons
Antonia Bakewell **
Thea Sayer **

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Adrian Wilson ‡
Amy McKean †
Patrick Flanagan

Cor anglais
Patrick Flanagan

Clarinetau
Nick Carpenter *
Robert Digney
Lenny Sayers

Clarinét Bas
Lenny Sayers †

Baswnau
Jarosław Augustiniak *
Lois Au
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Neil Shewan †
Jack Sewter
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Jake Durham

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Daniel Trodden †

Timpani
Steve Barnard * 

Offerynnau Taro 
Phil Girling
Max Ireland
Rhydian Griffiths

Telynau
Elen Hydref
Emily Harris

Piano
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr Llinynnol Cynorthwyol
** ddim yn Ravel

Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa penodiad ar waith
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen
Rheolwr Staff y Gerddorfa Kevin Myers
Cydlynydd Busnes Caryl Evans
Gweinyddwr y Gerddorfa Eleanor Hall +
Pennaeth Cynhyrchu Artistig Matthew Wood
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Eugene Monteith
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd Darlledu Kate Marsden
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cynhyrchydd Digidol Yusef Bastawy
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Cynhyrchwyr Addysg Beatrice Carey, Rhonwen Jones **
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Steven Brown +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Josh Mead
Prentis BBC Cymru Jordan Woodley

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar X, Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications